19/06/10 - Dydd Sadwrn,
Es i i wersyll yr Urdd LLangrannog gyda plant Blaenau Gwent. Ces i amser ffantastig! Yn y bore gwelais i Shane Williams yn sgïo. Mae e’n hoffi gwneud stynts. Mae e’n dalentog iawn! I ginio bwytais i spageti blasus. Ces i smwddi banana achos mae bwyta’n iach yn bwysig. Wedyn, yn y prynhawn gwisgais i helmed lliwgar ac es i ar y beiciau 'quad'. Ces i ras gyda Shane ac enillais i. Hwrê!!!!!
08/09/2010
Diwrnod y Pantomeim.
10/08/10 - Dydd Iau
Yn y nos, es i gyda Dad i Theatr Glan yr Afon, Casnewydd i weld Sinderela. Roedd Myleen Klass Derek Brockway, dyn y tywydd, yn y pantomeim. Mae Myleen yn gallu canu fel aderyn ac mae Derek yn ddoniol iawn. Dw i’n dwlu ar Myleen achos mae hi'n bert. Ces i hufen iâ mefus. Iym Iym !!!

Cwpan Ryder.
01/10/10 - Dydd Gwener.
Es i i’r Celtic Manor, Casnewydd i weld twrnament golff. Roedd hi’n braf, diolch byth. Gwisgais i sbectol haul trendi achos dw i’n ffasiynol iawn. Gwelais i Tiger Woods yn sgorio “birdie”. “GWYCH TIGER!!!!!” Dw i’n mwynhau gwylio golff yn fawr iawn ond dw i ddim yn gallu chwarae golff o gwbl.

Gêm Cwpan y Byd.
12.06.10 - Dydd Sadwrn.
Es i Dde Affrica achos ‘dw i’n dwlu ar chwarae pêl droed. Es i i Stadiwm i weld gêm Lloegr yn erbyn America. Roedd hi’n gêm gyffrous. Roedd Wayne Rooney yno. Clywais i vuvuzelas swnllyd iawn.

Parti Penblwydd
02.09.09 - Dydd Mercher , Penblwydd Mistar Urdd.
Es i gyda fy ffrind David Davies i Stadiwm Cwmbrân. Ces i barti syrpreis yn y pwll nofio. Grêt! Mae David yn gallu nofio fel pysgodyn. Mae medal aur ‘da fe o’r gemau Olympaidd. Canais i “Penblwydd Hapus i fi”a dawnsiais i gyda plant Torfaen. ‘Dw i’n dwlu ar gân Mistar Urdd achos mae'n hwyl. Ces i ben-blwydd bendigedig. Dw i'n lwcus iawn.

Subscribe to:
Posts (Atom)